38 A dwedodd y Pharo wrth ei swyddogion, “Ydyn ni'n mynd i ddod o hyd i unrhyw un tebyg i'r dyn yma? Mae Ysbryd Duw ynddo.”
39 Felly dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Gan fod Duw wedi dangos hyn i gyd i ti, maen amlwg fod neb sy'n fwy galluog a doeth na ti.
40 Dw i'n rhoi'r gwaith o reoli'r cwbl i ti. Bydd rhaid i'm pobl i gyd wneud fel rwyt ti'n dweud. Dim ond y ffaith mai fi ydy'r brenin fydd yn fy ngwneud i'n bwysicach na ti.”
41 Yna dyma'r Pharo'n dweud wrth Joseff, “Dw i'n dy osod di yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.”
42 Tynnodd ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a'i rhoi hi ar fys Joseff. Wedyn dyma fe'n arwisgo Joseff â gŵn o liain main drud a rhoi cadwyn aur am ei wddf.
43 Gwnaeth iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai yn gweiddi o'i flaen “I lawr ar eich gliniau!”Felly dyma'r Pharo yn ei wneud yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.
44 Dwedodd y Pharo wrtho hefyd, “Fi ydy'r Pharo. Ond fydd neb yng ngwlad yr Aifft yn cael symud bys bach heb dy ganiatâd di.”