48 Casglodd Joseff y grawn oedd dros ben yn yr Aifft yn ystod y blynyddoedd hynny, a'i storio yn y trefi. Ym mhob tref roedd yn storio cynnyrch yr ardal o'i chwmpas.
49 Llwyddodd Joseff i storio swm aruthrol fawr o ŷd. Roedd fel y tywod ar lan y môr. Roedd rhaid stopio ei bwyso i gyd am fod gormod ohono.
50 Cyn i'r newyn ddechrau cafodd Joseff ac Asnath, merch Potiffera, ddau fab.
51 Galwodd Joseff ei blentyn cyntaf yn Manasse – “Mae Duw wedi gwneud i mi anghofio fy holl drafferthion, a'm teulu,” meddai.
52 Galwodd yr ail blentyn yn Effraim – “Mae Duw wedi fy ngwneud i yn ffrwythlon yn y wlad lle dw i wedi diodde,” meddai.
53 Dyma'r saith mlynedd o ddigonedd yng ngwlad yr Aifft yn dod i ben.
54 A dechreuodd saith mlynedd o newyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Roedd newyn yn y gwledydd o gwmpas i gyd ond roedd bwyd i'w gael yn yr Aifft.