5 Pan aeth yn ôl i gysgu cafodd freuddwyd arall. Gwelodd saith tywysen o rawn, rhai oedd yn edrych yn llawn ac yn iach, yn tyfu ar un gwelltyn.
6 A dyma saith dywysen arall yn tyfu ar eu holau, rhai gwael wedi eu crino gan wynt y dwyrain.
7 A dyma'r tywysennau gwael yn llyncu'r tywysennau iach. Deffrodd y Pharo a sylweddoli mai breuddwyd arall oedd hi.
8 Y bore wedyn roedd yn teimlo'n anesmwyth, felly galwodd swynwyr doeth yr Aifft i'w weld. Dwedodd wrthyn nhw am ei freuddwyd ond doedd neb yn gallu esbonio ystyr y freuddwyd iddo.
9 Yna dyma'r prif-wetar yn mynd i siarad â'r Pharo, “Dw i newydd gofio rhywbeth heddiw. Dw i wedi bod ar fai,” meddai.
10 “Roedd y Pharo wedi gwylltio gyda'i weision, ac wedi fy anfon i a'r pen-pobydd i garchar capten y gwarchodlu.
11 Cafodd y ddau ohonon ni freuddwyd ar yr un noson, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.