54 A dechreuodd saith mlynedd o newyn, yn union fel roedd Joseff wedi dweud. Roedd newyn yn y gwledydd o gwmpas i gyd ond roedd bwyd i'w gael yn yr Aifft.
55 Pan oedd y newyn wedi dod a tharo'r Aifft, dyma'r bobl yn galw ar y Pharo am fwyd. A dyma'r Pharo yn dweud, “Ewch i weld Joseff, a gwnewch beth bynnag mae e'n ddweud.”
56 Pan oedd y newyn yn lledu drwy'r byd, agorodd Joseff y stordai a dechrau gwerthu ŷd i bobl yr Aifft. Roedd y newyn yn drwm yno.
57 Roedd pobl o bob gwlad yn dod i'r Aifft at Joseff i brynu ŷd am fod y newyn mor drwm yn y gwledydd hynny i gyd.