8 Y bore wedyn roedd yn teimlo'n anesmwyth, felly galwodd swynwyr doeth yr Aifft i'w weld. Dwedodd wrthyn nhw am ei freuddwyd ond doedd neb yn gallu esbonio ystyr y freuddwyd iddo.
9 Yna dyma'r prif-wetar yn mynd i siarad â'r Pharo, “Dw i newydd gofio rhywbeth heddiw. Dw i wedi bod ar fai,” meddai.
10 “Roedd y Pharo wedi gwylltio gyda'i weision, ac wedi fy anfon i a'r pen-pobydd i garchar capten y gwarchodlu.
11 Cafodd y ddau ohonon ni freuddwyd ar yr un noson, ac roedd ystyr arbennig i'r ddwy freuddwyd.
12 Roedd Hebrëwr ifanc yn y carchar, gwas capten y gwarchodlu. Pan ddwedon wrtho am ein breuddwydion, dyma fe'n esbonio ystyr y ddwy freuddwyd.
13 A digwyddodd popeth yn union fel roedd wedi dweud. Ces i fy swydd yn ôl ond cafodd corff y pobydd ei grogi ar bolyn.”
14 Felly dyma'r Pharo yn anfon am Joseff. A dyma nhw'n dod ag e allan o'r dwnsiwn ar frys. Ar ôl iddo siafio a gwisgo dillad glân, dyma fe'n cael ei ddwyn o flaen y Pharo.