10 “Na, syr,” medden nhw. “Mae dy weision wedi dod yma i brynu bwyd.
11 Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn, ac yn ddynion gonest. Dŷn ni erioed wedi bod yn ysbiwyr.”
12 “Na,” meddai Joseff. “Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad!”
13 A dyma nhw'n ei ateb, “Mae dy weision yn ddeuddeg brawd. Dŷn ni i gyd yn feibion i'r un dyn sy'n byw yng ngwlad Canaan. Mae'r ifancaf adre gyda'n tad, ac mae un wedi marw.”
14 “Na,” meddai Joseff eto. “Ysbiwyr ydych chi, yn union fel dw i wedi dweud.
15 Ond dw i'n mynd i'ch profi chi. Mor sicr â bod y Pharo'n fyw, chewch chi ddim gadael nes bydd eich brawd bach wedi dod yma!
16 Caiff un ohonoch chi fynd i nôl eich brawd tra mae'r lleill yn aros yn y carchar. Cewch gyfle i brofi eich bod yn dweud y gwir. Os nad ydych chi'n dweud y gwir mae'n amlwg mai ysbiwyr ydych chi.”