16 Caiff un ohonoch chi fynd i nôl eich brawd tra mae'r lleill yn aros yn y carchar. Cewch gyfle i brofi eich bod yn dweud y gwir. Os nad ydych chi'n dweud y gwir mae'n amlwg mai ysbiwyr ydych chi.”
17 A dyma fe'n eu cadw nhw yn y ddalfa am dri diwrnod.
18 Ar y trydydd diwrnod dyma Joseff yn dweud wrthyn nhw, “Gwnewch beth dw i'n ei ofyn a chewch fyw. Dw i'n ddyn sy'n addoli Duw.
19 Os ydych chi wir yn ddynion gonest, bydd rhaid i un ohonoch chi aros yma yn y carchar, a chaiff y lleill ohonoch chi fynd ag ŷd yn ôl i'ch teuluoedd.
20 Ond rhaid i chi ddod â'ch brawd ifancaf yma ata i. Wedyn bydda i'n gwybod eich bod chi'n dweud y gwir, a fydd dim rhaid i chi farw.” A dyma nhw'n cytuno.
21 Ond medden nhw wrth ei gilydd, “Dŷn ni'n talu'r pris am beth wnaethon ni i'n brawd. Roedden ni'n gweld yn iawn gymaint roedd e wedi dychryn, pan oedd yn pledio am drugaredd. Ond wnaethon ni ddim gwrando. Dyna pam mae hyn i gyd wedi digwydd i ni.”
22 “Ddwedais i wrthoch chi am beidio gwneud niwed i'r bachgen, ond wnaethoch chi ddim gwrando,” meddai Reuben. “A nawr mae'n rhaid i ni dalu am dywallt ei waed!”