23 (Doedden nhw ddim yn sylweddoli fod Joseff yn deall popeth roedden nhw'n ei ddweud. Roedd wedi bod yn siarad â nhw drwy gyfieithydd.)
24 Dyma Joseff yn eu gadael nhw ac yn torri i lawr i grïo. Pan ddaeth yn ôl i siarad â nhw eto, dyma fe'n dewis Simeon i'w gadw yn y ddalfa, a gorchymyn ei rwymo yn y fan a'r lle.
25 Wedyn dyma Joseff yn gorchymyn llenwi eu sachau ag ŷd, rhoi arian pob un ohonyn nhw yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddyn nhw ar gyfer y daith. A dyna wnaed.
26 Dyma'r brodyr yn llwytho eu hasynnod a mynd.
27 Pan wnaethon nhw stopio i aros dros nos, agorodd un ohonyn nhw ei sach i fwydo'i asyn. A dyna lle roedd ei arian yng ngheg y sach.
28 Aeth i ddweud wrth ei frodyr, “Mae fy arian wedi cael ei roi yn ôl. Roedd yn y sach!” Roedden nhw wedi dychryn go iawn. “Be mae Duw wedi ei wneud?” medden nhw.
29 Pan gyrhaeddon nhw adre i wlad Canaan at eu tad Jacob, dyma nhw'n dweud wrtho am bopeth oedd wedi digwydd.