30 “Roedd llywodraethwr y wlad yn gas gyda ni ac yn ein cyhuddo ni o fod yn ysbiwyr.
31 Dwedon ni wrtho ‘Dŷn ni'n ddynion gonest, dim ysbiwyr.
32 Teulu o ddeuddeg brawd, meibion i'r un tad. Mae un brawd wedi marw, ac mae'r ifancaf adre gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’
33 A dyma'r dyn oedd yn rheoli'r wlad yn dweud fel hyn, ‘Dyma sut fydda i'n gwybod os ydych chi'n ddynion gonest. Rhaid i un ohonoch chi aros yma gyda mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd. Ewch ag ŷd i fwydo'ch teuluoedd.
34 Wedyn dewch â'ch brawd bach yn ôl yma ata i. Bydda i'n gwybod wedyn eich bod chi'n ddynion gonest, ac nid ysbiwyr. Wedyn gwna i ryddhau'r brawd arall, a byddwch yn rhydd i brynu a gwerthu yma.’”
35 Wedyn aethon nhw ati i wagio eu sachau. A dyna lle roedd cod arian pob un yn ei sach. Pan welon nhw a'u tad y codau arian roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
36 “Dych chi'n fy ngwneud i'n ddi-blant fel hyn,” meddai Jacob. “Mae Joseff wedi mynd. Mae Simeon wedi mynd. A nawr dych chi am gymryd Benjamin oddi arna i! Mae popeth yn fy erbyn i.”