1 Roedd y newyn yn mynd yn waeth yn y wlad.
2 Pan oedd yr ŷd ddaethon nhw o'r Aifft wedi gorffen, dyma Jacob yn dweud wrth ei feibion, “Ewch yn ôl i brynu ychydig mwy o fwyd.”
3 Ond dyma Jwda'n dweud wrtho, “Roedd y dyn wedi'n rhybuddio ni. ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’
4 Os gwnei di anfon Benjamin gyda ni, awn ni i lawr i brynu bwyd i ti.
5 Ond os wyt ti ddim yn fodlon iddo ddod, wnawn ni ddim mynd chwaith. Dwedodd y dyn, ‘Gewch chi ddim dod i'm gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’”
6 “Pam wnaethoch chi beth mor wirion â dweud wrth y dyn fod gynnoch chi frawd arall?” meddai Israel.