13 Ac ewch â'ch brawd gyda chi. Ewch ar unwaith i weld y dyn.
14 A boed i'r Duw sy'n rheoli popeth wneud iddo fod yn garedig atoch chi, a gadael i Simeon a Benjamin ddod adre. Os oes rhaid i mi golli fy mhlant, rhaid i mi dderbyn hynny.”
15 Felly i ffwrdd â nhw gyda dwbl yr arian, yr anrheg, a Benjamin. Dyma nhw'n teithio i lawr i'r Aifft a sefyll o flaen Joseff.
16 Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda nhw dyma fe'n dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Dos â'r dynion i mewn i'r tŷ. Lladd anifail i ginio. Byddan nhw'n bwyta gyda mi ganol dydd.”
17 Felly dyma'r gwas yn gwneud hynny ac yn mynd â nhw i dŷ Joseff.
18 Roedd ganddyn nhw ofn pan aethpwyd â nhw i dŷ Joseff. “Mae wedi dod â ni yma o achos yr arian oedd wedi ei roi yn ein sachau y tro dwetha,” medden nhw. “Mae'n mynd i'n dal ni, ein gwneud ni'n gaethweision a chymryd yr asynnod.”
19 Felly dyma nhw'n mynd at brif swyddog tŷ Joseff wrth y drws, a dweud wrtho,