22 A dŷn ni wedi dod â mwy o arian gyda ni i brynu bwyd. Does gynnon ni ddim syniad pwy roddodd yr arian yn ein sachau ni.”
23 “Mae popeth yn iawn,” meddai'r swyddog. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'n rhaid bod eich Duw chi a'ch tad wedi rhoi'r arian yn ôl yn eich sachau. Gwnes i dderbyn eich arian chi.” A dyma fe'n dod â Simeon allan atyn nhw.
24 Ar ôl i'r swyddog fynd â nhw i dŷ Joseff, rhoddodd ddŵr iddyn nhw i olchi eu traed, a bwydo eu hasynnod nhw.
25 A dyma nhw'n paratoi'r anrheg ar gyfer pan fyddai Joseff yn dod ganol dydd. Roedden nhw wedi clywed eu bod nhw'n mynd i fwyta gydag e.
26 Pan ddaeth Joseff adre dyma nhw'n cyflwyno'r anrhegion iddo, ac yn ymgrymu o'i flaen.
27 Gofynnodd iddyn nhw sut oedden nhw. “Sut mae'ch tad yn cadw?” meddai. “Roeddech chi'n dweud ei fod mewn oed. Ydy e'n dal yn fyw?”
28 “Mae dy was, ein tad, yn fyw ac yn iach,” medden nhw. A dyma nhw'n ymgrymu yn isel o'i flaen.