7 “Roedd y dyn yn ein holi ni'n fanwl amdanon ni'n hunain a'n teuluoedd,” medden nhw. “Roedd yn gofyn, ‘Ydy'ch tad chi yn dal yn fyw? Oes gynnoch chi frawd arall?’ Wnaethon ni ddim byd ond ateb ei gwestiynau. Sut oedden ni i fod i wybod y byddai'n dweud, ‘Dowch â'ch brawd i lawr yma’?”
8 Yna dyma Jwda yn dweud wrth ei dad, Israel, “Anfon y bachgen gyda fi. Gallwn ni fynd yn syth, er mwyn i ni i gyd gael byw a pheidio marw – ti a ninnau a'n plant.
9 Ar fy llw, bydda i'n edrych ar ei ôl e. Cei di fy nal i'n gyfrifol amdano. Os na ddof i ag e yn ôl a'i osod e yma o dy flaen di, bydda i'n euog yn dy olwg di am byth.
10 Petaen ni heb lusgo'n traed bydden ni wedi bod yno ac yn ôl ddwywaith!”
11 Felly dyma Israel, eu tad, yn dweud wrthyn nhw, “O'r gorau, ond gwnewch hyn: Ewch â peth o gynnyrch gorau'r wlad yn eich paciau, yn anrheg i'r dyn – ychydig o falm a mêl, gwm pêr, myrr, cnau pistasio ac almon.
12 Ewch â dwbl yr arian gyda chi. Ewch â'r arian oedd yng ngheg eich sachau yn ôl. Camgymeriad oedd hynny mae'n siŵr.
13 Ac ewch â'ch brawd gyda chi. Ewch ar unwaith i weld y dyn.