1 Dyma Joseff yn dweud wrth brif swyddog ei dŷ, “Llanw sachau'r dynion â chymaint o ŷd ag y gallan nhw ei gario. Wedyn rho arian pob un ohonyn nhw yng ngheg ei sach.
2 Rho fy nghwpan i, sef y gwpan arian, yng ngheg sach yr ifancaf ohonyn nhw, gyda'i arian am yr ŷd.” A dyma'r prif swyddog yn gwneud fel dwedodd Joseff.
3 Wrth iddi wawrio'r bore wedyn cychwynnodd y dynion ar eu taith adre gyda'r asynnod.
4 Doedden nhw ddim wedi mynd yn bell o'r ddinas, pan ddwedodd Joseff wrth ei brif swyddog. “Dos ar ôl y dynion yna! Pan fyddi di wedi eu dal nhw, gofyn iddyn nhw, ‘Pam dych chi wedi gwneud drwg i mi ar ôl i mi fod mor garedig atoch chi?’ Gofyn pam maen nhw wedi dwyn fy nghwpan arian i.
5 Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma'r gwpan mae fy meistr yn yfed ohoni ac yn darogan y dyfodol gyda hi. Dych chi wedi gwneud peth drwg iawn.’”