14 Pan gyrhaeddodd Jwda a'i frodyr dŷ Joseff roedd e'n dal yno. A dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau o'i flaen.
15 Gofynnodd Joseff iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi gwneud hyn? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn fel fi yn gallu darogan beth sy'n digwydd?”
16 A dyma Jwda'n ateb, “Beth allwn ni ei ddweud wrth ein meistr? Dim byd. Allwn ni ddim profi ein bod ni'n ddieuog. Mae Duw yn gwybod am y drwg wnaethon ni. Dy gaethweision di ydyn ni bellach. Ni a'r un oedd y gwpan ganddo.”
17 Ond dyma Joseff yn dweud, “Faswn i byth yn gwneud y fath beth! Yr un roedd y gwpan ganddo fydd yn gaethwas i mi. Mae'r gweddill ohonoch chi yn rhydd i fynd adre at eich tad.”
18 Yna dyma Jwda'n camu ymlaen a gofyn iddo, “Fy meistr, plîs gad i dy was gael gair gyda ti. Paid bod yn ddig. Rwyt ti fel y Pharo.
19 Roedd fy meistr wedi gofyn i'w weision, ‘Oes gynnoch chi dad, neu frawd arall?’
20 A dyma ninnau'n dweud, ‘Mae ein tad yn hen ddyn, ac mae gynnon ni frawd bach gafodd ei eni pan oedd dad mewn oed. Mae brawd y bachgen wedi marw. Fe ydy unig blentyn ei fam sydd ar ôl, ac mae ei dad yn ei garu'n fawr.’