22 A dyma ninnau'n dweud wrth ein meistr, ‘All y bachgen ddim gadael ei dad. Byddai ei dad yn marw petai'n ei adael.’
23 Ond wedyn dyma ti'n dweud wrth dy weision, ‘Os fydd eich brawd bach ddim yn dod i lawr gyda chi, chewch chi ddim dod i'm gweld i eto.’
24 Aethon ni adre a dweud hyn i gyd wrth dy was, ein tad.
25 Felly pan ddwedodd ein tad wrthyn ni, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni,’
26 dyma ni'n dweud wrtho, ‘Allwn ni ddim oni bai bod ein brawd bach gyda ni. Gawn ni ddim gweld y dyn oni bai fod ein brawd bach gyda ni.’
27 A dyma dad yn dweud wrthon ni, ‘Dych chi'n gwybod mai dau fab roddodd fy ngwraig i mi.
28 Mae un wedi mynd – wedi ei rwygo'n ddarnau gan ryw anifail gwyllt mae'n debyg – a dw i ddim wedi ei weld ers hynny.