28 Mae un wedi mynd – wedi ei rwygo'n ddarnau gan ryw anifail gwyllt mae'n debyg – a dw i ddim wedi ei weld ers hynny.
29 Os cymerwch chi ei frawd oddi arna i hefyd, a bod rhywbeth yn digwydd iddo, byddai'r golled yn ddigon i'm gyrru i i'r bedd.’
30 Mae'r ddau mor agos at ei gilydd. Felly os af i yn ôl at fy nhad heb y bachgen
31 bydd hynny'n ddigon i'w ladd. Byddai dy weision yn euog o yrru eu tad i'w fedd.
32 Gwnes i addo i dad y byddwn i'n edrych ar ei ôl e. ‘Os wna i ddim dod ag e'n ôl i ti,’ meddwn i wrtho, ‘bydda i'n euog yn dy olwg di am weddill fy mywyd.’
33 Felly plîs, gad i mi aros yma yn gaethwas i'm meistr yn lle'r bachgen. Gad i'r bachgen fynd adre gyda'i frodyr.
34 Sut alla i fynd adre at fy nhad heb y bachgen? Allwn i ddim diodde gweld y boen fyddai hynny'n ei achosi i dad.”