6 Pan ddaliodd y swyddog nhw, dyna ddwedodd e wrthyn nhw.
7 A dyma nhw'n ei ateb, “Syr, sut alli di ddweud y fath beth? Fyddai dy weision byth yn meiddio gwneud peth felly.
8 Daethon ni â'r arian gawson ni yng ngheg ein sachau yn ôl o wlad Canaan. Felly pam fydden ni eisiau dwyn arian neu aur o dŷ dy feistr?
9 Os ydy'r gwpan gan unrhyw un ohonon ni, dylai hwnnw farw, a bydd y gweddill ohonon ni'n gaethweision i'n meistr.”
10 “Chi sy'n dweud sut ddylech chi gael eich cosbi,” meddai. “Ond na, bydd pwy bynnag mae'r gwpan ganddo yn dod yn gaethwas i mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd yn rhydd.”
11 Felly dyma nhw i gyd yn tynnu eu sachau i lawr ar unwaith ac yn eu hagor.
12 Edrychodd y swyddog yn y sachau i gyd. Dechreuodd gyda sach yr hynaf, a gorffen gyda'r ifancaf. A dyna lle roedd y gwpan, yn sach Benjamin.