9 Os ydy'r gwpan gan unrhyw un ohonon ni, dylai hwnnw farw, a bydd y gweddill ohonon ni'n gaethweision i'n meistr.”
10 “Chi sy'n dweud sut ddylech chi gael eich cosbi,” meddai. “Ond na, bydd pwy bynnag mae'r gwpan ganddo yn dod yn gaethwas i mi. Caiff y gweddill ohonoch chi fynd yn rhydd.”
11 Felly dyma nhw i gyd yn tynnu eu sachau i lawr ar unwaith ac yn eu hagor.
12 Edrychodd y swyddog yn y sachau i gyd. Dechreuodd gyda sach yr hynaf, a gorffen gyda'r ifancaf. A dyna lle roedd y gwpan, yn sach Benjamin.
13 Dyma nhw'n rhwygo eu dillad. Yna dyma nhw'n llwytho'r asynnod eto, a mynd yn ôl i'r ddinas.
14 Pan gyrhaeddodd Jwda a'i frodyr dŷ Joseff roedd e'n dal yno. A dyma nhw'n syrthio ar eu gliniau o'i flaen.
15 Gofynnodd Joseff iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi gwneud hyn? Ydych chi ddim yn sylweddoli fod dyn fel fi yn gallu darogan beth sy'n digwydd?”