12 Meibion Jwda: Er, Onan, Shela, Perets a Serach (ond roedd Er ac Onan wedi marw yng ngwlad Canaan). Ac roedd gan Perets ddau fab: Hesron a Chamŵl.
13 Meibion Issachar: Tola, Pwa, Job a Shimron.
14 Meibion Sabulon: Sered, Elon a Iachle-el.
15 Dyna'r meibion gafodd Lea i Jacob yn Padan-aram. Ac roedd wedi cael un ferch hefyd, sef Dina. Felly roedd 33 ohonyn nhw i gyd.
16 Meibion Gad: Siffion, Haggi, Shwni, Etsbon, Eri, Arodi ac Areli.
17 Meibion Asher: Imna, Ishfa, Ishfi, Bereia, a'u chwaer Serach. Ac roedd gan Bereia ddau fab: Heber a Malciel.
18 Dyna'r meibion gafodd Silpa (y forwyn roddodd Laban i'w ferch Lea). Roedd 16 i gyd.