20 Cafodd Joseff ddau fab yn yr Aifft: Manasse ac Effraim (Asnath, merch Potiffera offeiriad Heliopolis oedd eu mam.)
21 Meibion Benjamin: Bela, Becher, Ashbel, Gera, Naaman, Echi, Rosh, Mwppîm, Chwppîm ac Ard.
22 Dyma'r meibion gafodd Rachel. Felly roedd 14 yn ddisgynyddion i Rachel a Jacob.
23 Meibion Dan: y Chwshiaid.
24 Meibion Nafftali: Iachtseël, Gwni, Ieser a Shilem.
25 Dyma'r meibion gafodd Bilha (y forwyn roddodd Laban i'w ferch Rachel). Roedd saith yn ddisgynyddion i Jacob a Bilha.
26 Felly roedd 66 o ddisgynyddion Jacob wedi mynd gydag e i'r Aifft. (Dydy'r rhif yma ddim yn cynnwys gwragedd ei feibion.)