22 Dyma'r meibion gafodd Rachel. Felly roedd 14 yn ddisgynyddion i Rachel a Jacob.
23 Meibion Dan: y Chwshiaid.
24 Meibion Nafftali: Iachtseël, Gwni, Ieser a Shilem.
25 Dyma'r meibion gafodd Bilha (y forwyn roddodd Laban i'w ferch Rachel). Roedd saith yn ddisgynyddion i Jacob a Bilha.
26 Felly roedd 66 o ddisgynyddion Jacob wedi mynd gydag e i'r Aifft. (Dydy'r rhif yma ddim yn cynnwys gwragedd ei feibion.)
27 Gyda'r ddau fab gafodd eu geni i Joseff yn yr Aifft, roedd 70 o bobl o deulu Jacob yn yr Aifft.
28 Dyma Jacob yn anfon Jwda o'i flaen at Joseff i ddod â Joseff ato i Gosen. Wedyn dyma nhw'n cyrraedd ardal Gosen.