26 Felly roedd 66 o ddisgynyddion Jacob wedi mynd gydag e i'r Aifft. (Dydy'r rhif yma ddim yn cynnwys gwragedd ei feibion.)
27 Gyda'r ddau fab gafodd eu geni i Joseff yn yr Aifft, roedd 70 o bobl o deulu Jacob yn yr Aifft.
28 Dyma Jacob yn anfon Jwda o'i flaen at Joseff i ddod â Joseff ato i Gosen. Wedyn dyma nhw'n cyrraedd ardal Gosen.
29 Cafodd Joseff ei gerbyd yn barod, a mynd yno i gyfarfod ei dad. Pan ddaeth at ei dad dyma fe'n ei gofleidio'n dynn, a bu'n crïo ar ei ysgwydd am hir.
30 “Dw i'n barod i farw bellach,” meddai Jacob wrth Joseff. “Dw i wedi cael gweld dy fod ti'n dal yn fyw.”
31 Yna dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr a teulu ei dad, “Rhaid i mi ddweud wrth y Pharo eich bod chi wedi dod yma ata i o wlad Canaan.
32 Bydd rhaid i mi ddweud eich bod chi'n fugeiliaid ac yn cadw anifeiliaid, a'ch bod chi wedi dod â'ch preiddiau a'ch anifeiliaid i gyd gyda chi.