30 “Dw i'n barod i farw bellach,” meddai Jacob wrth Joseff. “Dw i wedi cael gweld dy fod ti'n dal yn fyw.”
31 Yna dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr a teulu ei dad, “Rhaid i mi ddweud wrth y Pharo eich bod chi wedi dod yma ata i o wlad Canaan.
32 Bydd rhaid i mi ddweud eich bod chi'n fugeiliaid ac yn cadw anifeiliaid, a'ch bod chi wedi dod â'ch preiddiau a'ch anifeiliaid i gyd gyda chi.
33 Os bydd y Pharo eisiau eich gweld chi, ac yn gofyn ‘Beth ydy'ch gwaith chi?’
34 dwedwch wrtho, ‘Mae dy weision wedi bod yn cadw anifeiliaid ar hyd eu bywydau. Dyna mae'r teulu wedi ei wneud ers cenedlaethau.’ Dwedwch hyn er mwyn i chi gael symud i fyw i ardal Gosen. Mae bugeiliaid yn tabŵ i'r Eifftiaid.”