1 Felly dyma Joseff yn mynd at y Pharo a dweud wrtho, “Mae dad a'm brodyr i wedi dod yma o wlad Canaan gyda'i hanifeiliaid a'u heiddo i gyd. Maen nhw wedi cyrraedd ardal Gosen.”
2 Dewisodd bump o'i frodyr i fynd gydag e, a'u cyflwyno i'r Pharo.
3 Gofynnodd y Pharo i'r brodyr, “Beth ydy'ch gwaith chi?” A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision yn fugeiliaid. Dyna mae'r teulu wedi ei wneud ers cenedlaethau.”
4 A dyma nhw'n dweud wrth y Pharo, “Dŷn ni wedi dod i aros dros dro yn y wlad. Does dim porfa i'n hanifeiliaid ni yn Canaan am fod y newyn mor drwm yno. Plîs wnewch chi adael i'ch gweision aros yn ardal Gosen.”
5 A dyma'r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Mae dy dad a dy frodyr wedi dod atat ti.
6 Mae gwlad yr Aifft o dy flaen di. Gad i dy dad a dy frodyr setlo yn y rhan orau o'r wlad. Gad iddyn nhw fynd i fyw yn ardal Gosen. Dewis y rhai gorau ohonyn nhw i ofalu am fy anifeiliaid i.”
7 Wedyn aeth Joseff â'i dad Jacob at y Pharo i'w gyflwyno iddo. A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo.