10 A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo eto cyn ei adael.
11 Felly dyma Joseff yn trefnu lle i'w dad a'i frodyr fyw. Rhoddodd dir iddyn nhw yn y rhan orau o wlad yr Aifft – yn ardal Rameses, fel roedd y Pharo wedi dweud.
12 Roedd Joseff hefyd yn rhoi digon o fwyd i gynnal ei dad a'i frodyr a'r teulu a'u plant i gyd.
13 Doedd dim bwyd yn unman yn y wlad. Roedd y newyn yn wirioneddol ddrwg. Roedd pobl yr Aifft a gwlad Canaan wedi mynd yn wan o achos y newyn.
14 Roedd Joseff yn gwerthu ŷd i'r bobl, a chasglodd yr holl arian oedd ar gael drwy wlad yr Aifft a gwlad Canaan. Ac aeth a'r arian i balas y Pharo.
15 Pan oedd dim arian ar ôl yn yr Aifft na gwlad Canaan, dyma'r Eifftiaid yn mynd at Joseff eto. “Rho fwyd i ni. Pam ddylen ni orfod marw am fod gynnon ni ddim arian?” medden nhw.
16 Atebodd Joseff, “Os nad oes gynnoch chi arian, rhowch eich anifeiliaid i mi. Rho i fwyd i chi am eich anifeiliaid.”