16 Atebodd Joseff, “Os nad oes gynnoch chi arian, rhowch eich anifeiliaid i mi. Rho i fwyd i chi am eich anifeiliaid.”
17 Felly dyma nhw'n dod â'u hanifeiliaid i Joseff. A rhoddodd Joseff fwyd iddyn nhw am eu ceffylau, eu defaid a'u geifr, eu gwartheg a'u hasynnod. Y flwyddyn honno rhoddodd fwyd iddyn nhw yn gyfnewid am eu hanifeiliaid.
18 Pan ddaethon nhw yn ôl y flwyddyn wedyn, dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae ein meistr yn gwybod nad oes gynnon ni arian, ac mae'n meistr hefyd wedi cymryd ein hanifeiliaid ni. Does gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gynnig ond ni'n hunain a'n tir.
19 Beth ydy'r pwynt os gwnawn ni farw? Pryna ni a'n tir am fwyd. Gwna ni'n gaethweision i'r Pharo, a chymer ein tir ni hefyd. Mae'n well i ni gael byw na marw, ac wedyn fydd y wlad i gyd ddim wedi ei difetha.”
20 Felly dyma Joseff yn prynu tir yr Aifft i gyd i'r Pharo. Roedd yr Eifftiaid i gyd yn gwerthu eu caeau iddo, am eu bod nhw'n diodde mor ofnadwy o achos y newyn. Felly'r Pharo oedd piau'r tir i gyd.
21 A dyma'r bobl o un pen i'r wlad i'r llall yn cael eu gwneud yn gaethweision.
22 (Yr unig dir wnaeth e ddim ei brynu oedd tir yr offeiriaid. Roedd yr offeiriaid yn cael lwfans gan y brenin, ac yn byw ar y lwfans hwnnw. Felly wnaethon nhw ddim gwerthu eu tir.)