6 Mae gwlad yr Aifft o dy flaen di. Gad i dy dad a dy frodyr setlo yn y rhan orau o'r wlad. Gad iddyn nhw fynd i fyw yn ardal Gosen. Dewis y rhai gorau ohonyn nhw i ofalu am fy anifeiliaid i.”
7 Wedyn aeth Joseff â'i dad Jacob at y Pharo i'w gyflwyno iddo. A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo.
8 Gofynnodd y Pharo i Jacob, “Faint ydy'ch oed chi?”
9 “Dw i wedi crwydro'r hen fyd yma ers 130 o flynyddoedd,” meddai Jacob. “Bywyd byr, a digon o drafferthion. Dw i ddim wedi cael byw mor hir â'm hynafiaid.”
10 A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo eto cyn ei adael.
11 Felly dyma Joseff yn trefnu lle i'w dad a'i frodyr fyw. Rhoddodd dir iddyn nhw yn y rhan orau o wlad yr Aifft – yn ardal Rameses, fel roedd y Pharo wedi dweud.
12 Roedd Joseff hefyd yn rhoi digon o fwyd i gynnal ei dad a'i frodyr a'r teulu a'u plant i gyd.