7 Wedyn aeth Joseff â'i dad Jacob at y Pharo i'w gyflwyno iddo. A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo.
8 Gofynnodd y Pharo i Jacob, “Faint ydy'ch oed chi?”
9 “Dw i wedi crwydro'r hen fyd yma ers 130 o flynyddoedd,” meddai Jacob. “Bywyd byr, a digon o drafferthion. Dw i ddim wedi cael byw mor hir â'm hynafiaid.”
10 A dyma Jacob yn bendithio'r Pharo eto cyn ei adael.
11 Felly dyma Joseff yn trefnu lle i'w dad a'i frodyr fyw. Rhoddodd dir iddyn nhw yn y rhan orau o wlad yr Aifft – yn ardal Rameses, fel roedd y Pharo wedi dweud.
12 Roedd Joseff hefyd yn rhoi digon o fwyd i gynnal ei dad a'i frodyr a'r teulu a'u plant i gyd.
13 Doedd dim bwyd yn unman yn y wlad. Roedd y newyn yn wirioneddol ddrwg. Roedd pobl yr Aifft a gwlad Canaan wedi mynd yn wan o achos y newyn.