1 Rywbryd wedyn clywodd Joseff fod ei dad yn sâl. Felly aeth i'w weld gyda'i ddau fab Manasse ac Effraim.
2 Pan ddywedwyd wrth Jacob fod ei fab Joseff wedi dod i'w weld dyma fe'n bywiogi ac yn eistedd i fyny yn ei wely.
3 A dyma fe'n dweud wrth Joseff. “Pan oeddwn i yn Lws yng ngwlad Canaan, roedd y Duw sy'n rheoli popeth wedi ymddangos i mi. Bendithiodd fi
4 a dweud wrtho i, ‘Dw i'n mynd i wneud yn siŵr dy fod ti'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydd grŵp o bobloedd yn dod ohonot ti. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti a dy ddisgynyddion am byth.’