10 Doedd Jacob ddim yn gweld yn dda iawn. Roedd wedi colli ei olwg wrth fynd yn hen. Felly dyma Joseff yn mynd â'i feibion yn nes at ei dad, a dyma Jacob yn eu cofleidio nhw a'u cusanu nhw.
11 Ac meddai wrth Joseff, “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i'n dy weld di eto. A dyma Duw wedi gadael i mi weld dy blant di hefyd!”
12 Cymerodd Joseff y bechgyn oddi ar liniau ei dad, ac wedyn ymgrymodd â'i wyneb ar lawr o'i flaen.
13 Rhoddodd Joseff Effraim ar yr ochr dde iddo (o flaen llaw chwith Jacob), a Manasse ar yr ochr chwith (o flaen llaw dde Jacob), a mynd â nhw'n nes ato.
14 Ond dyma Jacob yn croesi ei freichiau a rhoi ei law dde ar ben Effraim (yr ifancaf o'r ddau) a'i law chwith ar ben Manasse (y mab hynaf).
15 A dyma fe'n bendithio Joseff trwy ddweud,“O Dduw – y Duw roedd fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn ei wasanaethu;y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd;
16 Yr angel sydd wedi fy amddiffyn i rhag pob drwg– bendithia'r bechgyn yma.Cadw fy enw i ac enw fy nhaid Abraham a'm tad Isaac yn fyw trwyddyn nhw.Gwna nhw yn dyrfa fawr o bobl ar y ddaear.”