17 Pan sylwodd Joseff fod ei dad wedi rhoi ei law dde ar ben Effraim, doedd e ddim yn hapus. Felly gafaelodd yn llaw dde ei dad i'w symud o ben Effraim i ben Manasse,
18 a dweud wrtho, “Na, paid dad. Hwn ydy'r mab hynaf. Rho dy law dde ar ei ben e.”
19 Ond gwrthododd ei dad. “Dw i'n gwybod be dw i'n wneud, fy mab,” meddai. “Bydd hwn hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd bach yn fwy nag e. Bydd ei ddisgynyddion yn llawer iawn o bobloedd gwahanol.”
20 Felly dyma fe'n eu bendithio nhw y diwrnod hwnnw drwy ddweud:“Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw i fendithio eraill:‘Boed i Dduw dy wneud di fel Effraim a Manasse.’”Enwodd Effraim gyntaf a Manasse wedyn.
21 Wedyn dyma Jacob yn dweud wrth Joseff, “Fel y gweli, dw i ar fin marw. Ond bydd Duw gyda ti, ac yn mynd â ti yn ôl i wlad dy hynafiaid.
22 Dw i am roi siâr fwy i ti nag i dy frodyr – llethrau mynydd Sichem, a gymerais oddi ar yr Amoriaid gyda'm cleddyf a'm bwa.”