3 A dyma fe'n dweud wrth Joseff. “Pan oeddwn i yn Lws yng ngwlad Canaan, roedd y Duw sy'n rheoli popeth wedi ymddangos i mi. Bendithiodd fi
4 a dweud wrtho i, ‘Dw i'n mynd i wneud yn siŵr dy fod ti'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydd grŵp o bobloedd yn dod ohonot ti. Dw i'n mynd i roi'r wlad yma i ti a dy ddisgynyddion am byth.’
5 Joseff, bydd dy ddau fab, gafodd eu geni i ti yn yr Aifft cyn i mi ddod yma, yn feibion i mi. Bydd Effraim a Manasse yn cael eu cyfri yn feibion i mi, yn union yr un fath â Reuben a Simeon.
6 Bydd y plant eraill sydd gen ti yn aros yn feibion i ti, ond yn cael eu rhestru fel rhai fydd yn etifeddu tir gan eu brodyr.
7 Buodd Rachel farw yng ngwlad Canaan pan oeddwn i ar fy ffordd yn ôl o Padan, ac roeddwn i'n drist iawn. Digwyddodd pan oedden ni'n dal yn reit bell o Effrath. Felly dyma fi'n ei chladdu hi yno, ar y ffordd i Effrath” (hynny ydy, Bethlehem).
8 “Pwy ydy'r rhain?” meddai Jacob pan welodd feibion Joseff.
9 “Dyma'r meibion roddodd Duw i mi yma,” meddai Joseff wrth ei dad. A dyma Jacob yn dweud, “Tyrd â nhw ata i, i mi gael eu bendithio nhw.”