1 Galwodd Jacob ei feibion ato. “Dewch yma i mi gael dweud wrthoch chi beth sy'n mynd i ddigwydd i chi yn y dyfodol,” meddai.
2 “Dewch yma i wrando, feibion Jacob;gwrandwch ar Israel, eich tad.
3 Reuben, ti ydy fy mab hynaf;fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni –yr un â'r safle uchaf a'r anrhydedd mwyaf.
4 Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr –fyddi di ddim yn gyntaf.Est ti i mewn i wely dy dad,a'i lygru trwy dreisio fy ngwraig –gorwedd ar glustogau dy dad!
5 Mae Simeon a Lefi yn frodyr.Dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio arfau treisiol.
6 Dw i ddim eisiau bod yn rhan o'r peth –dw i am gadw draw o'r math yna o feddwl.Roedden nhw wedi gwylltio, a dyma nhw'n lladd dynionfel rhai'n gwneud ychen yn gloff am hwyl.