11 Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden,a'i asen ifanc wrth y winwydden orau.Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwina'i fantell yng ngwaed y grawnwin.
12 Mae ei lygaid yn gochion gan win,a'i ddannedd yn wynion fel llaeth.
13 Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr.Bydd yn hafan ddiogel i longau.Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.
14 Mae Issachar fel asyn cryfyn gorwedd dan bwysau ei baciau.
15 Gwelodd le da i orffwysa bod y wlad yno yn hyfryd.Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefna chael ei hun yn gaethwas.
16 Bydd Dan yn rheoli ei boblfel un o lwythau Israel.
17 Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd –fel gwiber ar y llwybryn brathu troed y ceffyla gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.