13 Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr.Bydd yn hafan ddiogel i longau.Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.
14 Mae Issachar fel asyn cryfyn gorwedd dan bwysau ei baciau.
15 Gwelodd le da i orffwysa bod y wlad yno yn hyfryd.Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefna chael ei hun yn gaethwas.
16 Bydd Dan yn rheoli ei boblfel un o lwythau Israel.
17 Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd –fel gwiber ar y llwybryn brathu troed y ceffyla gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.
18 Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o ARGLWYDD!
19 Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad,ond bydd e'n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd.