16 Bydd Dan yn rheoli ei boblfel un o lwythau Israel.
17 Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd –fel gwiber ar y llwybryn brathu troed y ceffyla gwneud i'r marchog syrthio yn ôl.
18 Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o ARGLWYDD!
19 Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad,ond bydd e'n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd.
20 Bydd bwyd cyfoethog gan Asher.Bydd e'n darparu danteithion i'r llys brenhinol.
21 Mae Nafftali fel ewig yn rhedeg yn rhydd,sy'n cael llydnod hardd.
22 Mae Joseff yn gangen ffrwythlon –cangen ffrwythlon wrth ffynnon,a'i changhennau'n ymestyn dros y wal.