23 Roedd bwasaethwyr yn ymosod arno,yn saethu ato ac yn dal dig yn ei erbyn.
24 Ond daliai ei fwa'n llonyddac roedd ei ddwylo a'i freichiau'n chwim.Roedd Un Cryf Jacob gydag e –y Bugail, Craig Israel.
25 Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di;y Duw sy'n rheoli popeth.Bydd e'n dy fendithio digyda'r bendithion o'r awyr uchod,a'r bendithion sy'n gorwedd dan y ddaear isod,gyda bendithion y fron a'r groth.
26 Mae'r bendithion gafodd dy dadyn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddola'r pethau da mae'r bryniau hynafol yn eu rhoi.Byddan nhw'n disgyn ar ben Joseff –ar dalcen yr un sy'n flaenaf ar ei frodyr.
27 Mae Benjamin fel blaidd rheibus,yn rhwygo ei ysglyfaeth yn y bore,ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda'r nos.”
28 Dyma'r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw.
29 Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i'n mynd i farw cyn hir. Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad.