7 Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy;am ddigio a bod mor greulon.Dw i'n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhwar hyd a lled Israel!
8 Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di.Byddi di'n cael y llaw uchaf ar dy elynion.Bydd teulu dy dad yn ymgrymu'n isel o dy flaen di.
9 Jwda, fy mab, rwyt ti fel llew ifancwedi lladd dy brae ac yn sefyll uwch ei ben.Mae'n gorwedd i lawr eto fel llew,a does neb yn meiddio aflonyddu arno.
10 Fydd y deyrnwialen ddim yn gadael Jwda.Bydd ffon y llywodraethwr gan ei ddisgynyddionnes daw pobl i dalu teyrnged iddo.Bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau iddo.
11 Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden,a'i asen ifanc wrth y winwydden orau.Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwina'i fantell yng ngwaed y grawnwin.
12 Mae ei lygaid yn gochion gan win,a'i ddannedd yn wynion fel llaeth.
13 Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr.Bydd yn hafan ddiogel i longau.Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon.