1 Dyma restr deuluol Adda:Pan greodd Duw bobl, gwnaeth nhw i fod yn ddelw ohono'i hun.
2 Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw, bendithiodd nhw, a rhoi'r enw ‛dynoliaeth‛ iddyn nhw.
3 Pan oedd Adda yn 130 oed, cafodd fab a'i alw'n Seth. Roedd Seth yr un ffunud â'i dad.
4 Buodd Adda fyw am 800 mlynedd ar ôl i Seth gael ei eni, a chafodd blant eraill.
5 Felly roedd Adda yn 930 oed yn marw.
6 Pan oedd Seth yn 105 oed cafodd ei fab Enosh ei eni.
7 Buodd Seth fyw am 807 o flynyddoedd ar ôl i Enosh gael ei eni, a chafodd blant eraill.