28 Pan oedd Lamech yn 182 oed cafodd fab,
29 a'i alw yn Noa. Dwedodd, “Bydd hwn yn rhoi gorffwys i ni o'r gwaith caled o drin y tir mae'r ARGLWYDD wedi ei felltithio.”
30 Buodd Lamech fyw am 595 mlynedd ar ôl i Noa gael ei eni, a chafodd blant eraill
31 Felly roedd Lamech yn 777 oed yn marw.
32 Pan oedd Noa yn 500 mlwydd oed roedd ganddo dri mab – Shem, Cham a Jaffeth.