6 Pan oedd Seth yn 105 oed cafodd ei fab Enosh ei eni.
7 Buodd Seth fyw am 807 o flynyddoedd ar ôl i Enosh gael ei eni, a chafodd blant eraill.
8 Felly roedd Seth yn 912 oed yn marw.
9 Pan oedd Enosh yn 90 oed cafodd ei fab Cenan ei eni.
10 Buodd Enosh fyw am 815 mlynedd ar ôl i Cenan gael ei eni, a chafodd blant eraill.
11 Felly roedd Enosh yn 905 oed yn marw.
12 Pan oedd Cenan yn 70 oed, cafodd ei fab Mahalal-el ei eni.