9 Pan oedd Enosh yn 90 oed cafodd ei fab Cenan ei eni.
10 Buodd Enosh fyw am 815 mlynedd ar ôl i Cenan gael ei eni, a chafodd blant eraill.
11 Felly roedd Enosh yn 905 oed yn marw.
12 Pan oedd Cenan yn 70 oed, cafodd ei fab Mahalal-el ei eni.
13 Buodd Cenan fyw am 840 mlynedd ar ôl i Mahalal-el gael ei eni, a chafodd blant eraill.
14 Felly roedd Cenan yn 910 oed yn marw.
15 Pan oedd Mahalal-el yn 65 oed cafodd ei fab Iered ei eni.