12 Felly gwnaeth meibion Jacob beth roedd eu tad wedi ei ddweud wrthyn nhw.
13 Aethon nhw â'i gorff i wlad Canaan, a'i gladdu yn yr ogof yn Machpela ger Mamre, ar y tir oedd Abraham wedi ei brynu gan Effron yr Hethiad i fod yn fan claddu i'w deulu.
14 Ar ôl claddu ei dad aeth Joseff yn ôl i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb arall oedd wedi bod yn yr angladd.
15 Gan fod eu tad wedi marw, roedd brodyr Joseff yn dechrau ofni, “Beth os ydy Joseff yn dal yn ddig hefo ni? Beth os ydy e am dalu'r pwyth yn ôl am yr holl ddrwg wnaethon ni iddo?”
16 Felly dyma nhw'n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw,
17 ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe'n dechrau crïo.
18 Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Byddwn ni'n gaethweision i ti.”