14 Ar ôl claddu ei dad aeth Joseff yn ôl i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb arall oedd wedi bod yn yr angladd.
15 Gan fod eu tad wedi marw, roedd brodyr Joseff yn dechrau ofni, “Beth os ydy Joseff yn dal yn ddig hefo ni? Beth os ydy e am dalu'r pwyth yn ôl am yr holl ddrwg wnaethon ni iddo?”
16 Felly dyma nhw'n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw,
17 ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe'n dechrau crïo.
18 Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Byddwn ni'n gaethweision i ti.”
19 Ond dyma Joseff yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i?
20 Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd ganddo eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi'n weld heddiw.