16 Felly dyma nhw'n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw,
17 ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe'n dechrau crïo.
18 Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Byddwn ni'n gaethweision i ti.”
19 Ond dyma Joseff yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i?
20 Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd ganddo eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi'n weld heddiw.
21 Felly peidiwch bod ag ofn. Gwna i ofalu amdanoch chi a'ch plant.” Felly rhoddodd Joseff dawelwch meddwl iddyn nhw wrth siarad yn garedig gyda nhw.
22 Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Cafodd Joseff fyw i fod yn 110 oed.