2 Wedyn gorchmynnodd i'w weision, y meddygon, falmeiddio'r corff. A dyna gafodd ei wneud i gorff Jacob.
3 Cymerodd y broses yma bedwar deg diwrnod, achos dyna faint o amser roedd yn ei gymryd i falmeiddio corff. A bu cyfnod o alaru ar ei ôl drwy wlad yr Aifft am saith deg diwrnod.
4 Pan oedd y cyfnod o alar drosodd, dyma Joseff yn mynd at gynghorwyr y Pharo, a dweud: “Mae gen i ffafr i'w gofyn gan y Pharo. Wnewch chi ofyn iddo ar fy rhan i, plîs?
5 Gwnaeth fy nhad i mi addo rhywbeth iddo ar lw. Dyma ddwedodd e: ‘Dw i ar fin marw, a dw i eisiau i ti fy nghladdu i yn y bedd dw i wedi ei dorri i mi fy hun yng ngwlad Canaan.’ Felly gofyn ydw i am ganiatâd i fynd yno i gladdu dad. Bydda i'n dod yn ôl yma wedyn.”
6 Dyma'r Pharo'n dweud, “Dos i gladdu dy dad, fel gwnest ti addo iddo.”
7 Felly dyma Joseff yn mynd i gladdu ei dad. Aeth swyddogion y Pharo i gyd gydag e, a phobl bwysig y llys ac arweinwyr y wlad.
8 Teulu Joseff i gyd, ei frodyr, a theulu ei dad hefyd. Dim ond y plant bach a'r anifeiliaid gafodd eu gadael yn ardal Gosen.