22 Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Cafodd Joseff fyw i fod yn 110 oed.
23 Cafodd weld tair cenhedlaeth o deulu Effraim. Gwelodd blant Machir (mab Manasse) hefyd a'u derbyn nhw fel ei blant ei hun.
24 Wedyn dyma Joseff yn dweud wrth ei frodyr, “Dw i ar fin marw. Ond bydd Duw yn dod atoch chi ac yn eich cymryd chi yn ôl o'r wlad yma i'r wlad wnaeth e addo ei rhoi i Abraham, Isaac a Jacob.”
25 Felly dyma Joseff yn gwneud i bobl Israel addo, “Pan fydd Duw yn dod atoch chi, dw i am i chi fynd â fy esgyrn i o'r lle yma.”
26 A dyma Joseff yn marw yn 110 oed. Cafodd ei gorff ei falmeiddio a'i osod mewn arch yn yr Aifft.