15 Gwna hi'n 130 metr o hyd, 22 metr o led ac 13 metr o uchder.
16 Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau'r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, a thri llawr ynddi – yr isaf, y canol a'r uchaf.
17 Dw i'n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear fydd yn boddi popeth sy'n anadlu. Bydd popeth byw yn marw.
18 Ond bydda i'n gwneud ymrwymiad i ti. Byddi di'n mynd i mewn i'r arch – ti a dy feibion, dy wraig a'u gwragedd nhw.
19 “Dw i am i ti fynd â dau o bob math o anifail i mewn i'r arch hefo ti i'w cadw'n fyw, sef un gwryw ac un benyw.
20 Pob math o adar, pob math o anifeiliaid, pob math o ymlusgiaid – bydd dau o bopeth yn dod atat ti i'w cadw'n fyw.
21 Dos â phob math o fwyd gyda ti hefyd, a'i storio. Digon o fwyd i chi ac i'r anifeiliaid.”