2 dyma'r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw'n cymryd y rhai roedden nhw'n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw eu hunain.
3 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw'n greaduriaid sy'n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.”
4 Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i'r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd.
5 Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw'n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy'r amser.
6 Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu'r ddynoliaeth. Roedd wedi ei frifo a'i ddigio.
7 Felly dyma fe'n dweud, “Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth yma dw i wedi ei chreu. Ydw, a'r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a'r adar hefyd. Dw i'n sori mod i wedi eu creu nhw yn y lle cyntaf.”
8 Ond roedd Noa wedi plesio'r ARGLWYDD.